Hofrennydd tebyg i'r un sydd ar goll (Matthew Field CCA3.0)
Mae’r chwilio’n parhau yn Eryri am hofrennydd sydd wedi diflannu yn yr ardal gyda phump o bobol ar ei fwrdd.

Mae’r chwilio yn y môr ym Mae Caernarfon wedi dod i drefn am gyfnod oherwydd cymylau a niwl.

Erbyn hyn, Heddlu Gogledd Cymru sy’n arwain y gwaith chwilio ar y tir, gyda chymorth timau achub mynydd.

Y daith

Roedd yr hofrennydd ar ei ffordd o Milton Keynes yn Lloegr i Ddulyn yn Iwerddon ond fe ddiflannodd oddi ar sgriniau radar tua 4.15 brynhawn ddoe.

Fe fu dau hofrennydd gwylwyr y glannau, o Gaernarfon a Sain Tathan, yn chwilio amdano ond heb lwyddiant.

Yn ôl llefarydd, fe fu’n rhaid i’r ddau hofrennydd roi’r gorau iddi oherwydd y tywydd a does dim bwriad i’w galw eto nes i’r amodau wella.

Mae yna neges wedi mynd i longau yn ardal Bae Caernarfon yn gofyn iddyn nhwthau gadw llygad am yr hofrennydd coll.

Perchnogion

Mae’r papurau heddiw’n dweu dmai cwmni adeiladu o dde Lloegr yw perchnogion yr hofrennydd ond does dim gwybodaeth hyd yma pwy oedd ar ei fwrdd.

Y Twin Squirrel yw un o’r hofrenyddion mwya’ poblogaidd o’i fath.