Mae’n rhaid i drethi newydd mewn meysydd sydd wedi eu datganoli dderbyn caniatâd Cymru,  yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Daw’r rhybudd mewn adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad am yr Ardoll Brentisiaethau. Mae’n un o 13 o argymhellion gan y pwyllgor yn yr adroddiad.

Bydd yr Ardoll Brentisiaethau – ardoll sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – yn dod i rym wythnos nesaf ac yn effeithio cyflogwyr mawr.

“Goblygiadau sylweddol”

“Mae’n destun pryder bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r ardoll hon sydd â goblygiadau sylweddol i faes sydd wedi’i ddatganoli, a hynny heb ymgynghori â’r sefydliadau datganoledig yn gyntaf.

“Ni ddylid cael rhagor o drethi mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad gan Gymru,” Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George.

Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyflogwyr fydd yn talu’r ardoll yn derbyn gwybodaeth briodol o flaen llaw gan fod darpariaeth hyd yma wedi bod yn “dameidiog.”

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater eto ymhen blwyddyn er mwyn asesu effaith yr ardoll.