Mae cadeirydd ac is-gadeirydd Chwaraeon Cymru wedi cael eu diswyddo gan Lywodraeth Cymru ar ôl i’r “berthynas gyda staff dorri i lawr”.

Cafodd Paul Thomas ac Adele Baumgardt eu diarddel ym mis Tachwedd, ynghyd â gweddill bwrdd rheoli Chwaraeon Cymru.

Roedd pryderon bryd hynny nad oedd y bwrdd yn cyflawni ei waith mewn modd boddhaol, ac fe gafodd amheuon eu codi am y ffordd yr oedd y corff yn dyfarnu cytundebau gan ddefnyddio cyllideb o £22 miliwn y flwyddyn.

Daeth y penderfyniad ar ôl i arolwg o Chwaraeon Cymru gael ei gwblhau, ond daeth rhagor o gwynion i law wedi hynny.

Cafodd gweddill y bwrdd ddychwelyd i’w gwaith fis diwethaf, ond roedd Paul Thomas ac Adele Baumgardt wedi’u diarddel o hyd.

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, Rebecca Evans mai ei blaenoriaeth yw sicrhau “effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru a’i gyfraniad i les y genedl drwy ganolbwyntio ar chwaraeon a hamdden corfforol”.

Bydd y cadeirydd dros dro, Lawrence Conway yn parhau yn ei swydd tan o leiaf ddiwedd y flwyddyn.

“Cwestiynau difrifol i’w hateb”

 

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd llefarydd iechyd a chwaraeon Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC: “Does dim amheuaeth fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i staff a’r holl bobl sy’n ymwneud â Chwaraeon Cymru.

“Mae cwestiynau difrifol i’w hateb gan y Gweinidog yn dilyn ei datganiad heddiw ar y broses recriwtio wreiddiol ac ar yr adolygiad sicrwydd gafodd ei gynnal. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog gynnal adolygiad o’r prosesau a chyhoeddi’r adolygiad sicrwydd.

“Byddaf hefyd yn gofyn am eglurhad gan y Gweinidog ar y materion a arweiniodd at chwalu’n llwyr y berthynas o fewn arweinyddiaeth bwrdd Chwaraeon Cymru a’r gefnogaeth y byddant yn ei roi nawr fydd yn galluogi Chwaraeon Cymru i symud ymlaen i’r dyfodol. ”

“Dim callach”

 

Dywedodd llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AC, nad oedd y diswyddiadau “yn ein gadael dim callach ynglŷn â’r hyn aeth o’i le.”

Ychwanegodd: “O ystyried bod Chwaraeon Cymru yn derbyn mwy na £22 miliwn o arian cyhoeddus yn flynyddol, rydym yn haeddu llawer mwy o dryloywder gan Lywodraeth Cymru” a bod angen cynllun hirdymor a fydd yn caniatáu i chwaraeon “ffynnu.”