Llun: Wicipedia
Mae tanio Erthygl 50 i ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd yn “nodi moment hanesyddol” i Gymru, yn ôl cadeirydd un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Daw’r datganiad gan gadeirydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, David Rees ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May awgrymu y bydd Brexit yn arwain at roi mwy o bwerau datganoledig i Gymru.

Dywedodd: “Bydd y cyfnod trafod o ddwy flynedd yn dechrau o ddifrif a bydd ein pwyllgor trawsbleidiol yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed yn Llundain, ym Mrwsel, ac ym mhrifddinasoedd Ewrop.

“Ni waeth beth yw’n plaid, neu beth oedd ein safbwynt yn ystod y refferendwm, mae’n rhaid i ni ddod at ein gilydd er budd Cymru.

“Mae blynyddoedd o waith caled o’n blaenau, a bydd angen i ni dynnu ar arbenigedd a doniau pobl Cymru i gael y fargen sy’n iawn i Gymru.”