Mae lein-yp Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni wedi ei gyhoeddi, wrth i’r ŵyl gerddoriaeth Gymraeg ddathlu’i phen blwydd yn ugain oed.

Yws Gwynedd a’r band fydd yn chwarae’r prif slot nos Sadwrn eleni gyda Candelas, Bryn Fôn a’r Band a Sŵnami yn chwarae prif slotiau’r nosweithiau blaenorol.

Bydd llu o fandiau yn dychwelyd i’r llwyfan gan gynnwys Yr Eira, Ysgol Sul a’r Ffug, ac mi fydd ambell fand yn chwarae ym Maes B am y tro cyntaf gan gynnwys Ffracas a Hyll.

Dyma fydd yr ugeinfed ŵyl gerddorol o’i fath ers ei sefydlu yn 1997 a’r gobaith yw cynnal noson arbennig i ddathlu’r pen-blwydd.

“Y sîn ar ei gorau” 

“Roedd yn bwysig iawn i ni gael lein-yps cryf eleni, gan ein bod ni’n dathlu #MaesB20.  Ac rwy’n credu ein bod ni wedi llwyddo i drefnu nosweithiau sy’n dangos y sîn ar ei gorau, gan gyfuno enwau hynod gyfarwydd gydag ambell fand mwy newydd,”  meddai trefnydd Maes B, Guto Brychan.

“Yn sicr, byddwn yn edrych yn ôl dros yr ugain mlynedd ddiwethaf dros y misoedd nesaf, ond mae cyhoeddi ein lein-yps heno’n gyfle i ni edrych ymlaen a dathlu’r ffaith bod gennym gymaint o fandiau ac artistiaid arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Lein-yps Maes B 2017:

•         Nos Fercher, Awst 9: Candelas, Ffug, Cpt Smith, Chroma;

•         Nos Iau, Awst 10: Bryn Fôn a’r Band, Fleur de Lys, Calfari, Ffracas;

•         Nos Wener, Awst 11: Sŵnami, Yr Eira, Ysgol Sul, Hyll;

•         Nos Sadwrn, Awst 12: Yws Gwynedd, Y Reu, HMS Morris, Enillwyr Brwydr y Bandiau.

Bydd tocynnau Maes B ar werth o 10yb ar Ddydd Llun, Ebrill 3 gyda thocynnau bargen gynnar ar gael o Fehefin 30 ymlaen – ewch i www.maesb.com am ragor o wybodaeth neu ffoniwch 0845 4090 800.