Yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies
Mae’r gwleidydd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies wedi marw’n 93 oed.

Yn enedigol o Lanegryn ym Meirionnydd, roedd yn aelod o’r Blaid Lafur ac yn frwd dros ddatganoli.

Ef oedd ymgeisydd y Blaid Lafur yn isetholiad Caerfyrddin yn 1966 pan gafodd Gwynfor Evans ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.

Ef hefyd oedd sylfaenydd y Mudiad Gweriniaethwyr Sosialaidd yng Nghymru.

Fe newidiodd ei enw’n gyfreithlon o Gwilym Prys Davies i Gwilym Prys-Davies er mwyn dod yn Farwn Prys-Davies o Lanegryn yn 1983.

Yn Nhŷ’r Arglwyddi, fe fu’n llefarydd iechyd y Blaid Lafur o 1983 i 1987, yn llefarydd ar Ogledd Iwerddon rhwng 1982 a 1993 ac yn llefarydd ar faterion Cymreig rhwng 1987 a 1997.

Ymddeolodd o Dŷ’r Arglwyddi yn 2015.

Dyn mwyn

Yn ystod yr 1970au, fe ddaeth yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies yn ymgynghorydd arbennig i’r Arglwydd John Morris, ac mae’n debyg y bu’n “graig” iddo yn ystod tymhestl wleidyddol y cyfnod.

“Oedd Gwilym gyda fi bob amser. Oedd e’n graig oeddwn i’n gallu dibynnu arno ac oedd Gwilym yn gwybod lle oeddwn i’n anelu ato. O’n i’n gallu dadlau ar y ffordd ac anghytuno, cafon ni tipyn o anghytuno. Ond oeddem ni yn cytuno yn y diwedd,” meddai John Morris wrth Golwg360.

Yn ôl John Morris, roedd ei gyfaill yn San Steffan yn ddyn “mwyn” wnaeth gyfrannu’n fawr i Gymru a’i hiaith.

“Oedd e’n ddyn mwynaidd iawn er roedd ei feddwl mor siarp ac yn finiog ar adegau. Dyn mwyn oedd e yn yr hanfod.”

“Oedd ei gyfraniad i’r iaith yn arbennig. Oedd ei flaenoriaeth efallai yn fwy i’r iaith na mi. Mae ar Gymru ddyled wirioneddol fawr iddo. Oedd e’n allweddol.”