Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dyn 25 oed ar amheuaeth o lofruddio dyn 67 oed yn Wrecsam.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Jordan James Lee Davidson mewn perthynas â marwolaeth Nicholas Anthony Churton.
Cafodd yr heddlu eu galw am 8.23yb i dŷ yn y dref fore dydd Llun, lle daethon nhw o hyd i gorff.
Mae lle i gredu ei fod e wedi cael ei ladd rhwng 2.45pm brynhawn dydd Iau a chanol nos, nos Wener.
Yn dilyn archwiliad post-mortem, cyhoeddodd yr heddlu ei fod e wedi cael ei ladd o ganlyniad i ergyd i’w ben.
Mae dyn 35 oed a dynes 27 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio am wybodaeth.