Llun: PA
Mae’r Blaid Lafur wedi datgelu pwy fydd ar dasglu  i ymchwilio i sut i ddosbarthu pwerau ar draws gwledydd Prydain ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd y tasglu hefyd yn edrych ar ffyrdd o gryfhau llywodraeth leol drwy gyflwyno pecyn o fesurau arbennig.

Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur yng Nghymru, Carwyn Jones fydd yn cadeirio cyfarfod y tasglu yng Nghaerdydd heddiw wrth i Brif Weinidog Prydain, Theresa May danio Erthygl 50 i ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith aelodau mwyaf blaenllaw’r tasglu mae cyn-Brif Weinidog Prydain Gordon Brown, arweinydd Llafur yr Alban Kezia Dugdale, cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Prydain John Prescott,  a llefarydd Swyddfa Gabinet Llafur Jon Trickett.

Yn cynrychioli Llywodraeth Leol mae llefarydd materion Cymreig Llafur Christina Rees, llefarydd Llywodraeth Leol a Datganoli Llafur Jim McMahon, ymgeiswyr ar gyfer swyddi maer Manceinion (Andy Burnham), Lerpwl (Steve Rotherham) a Gorllewin Canolbarth Lloegr (Sion Simon), Dirprwy Faer Llundain Jules Pipe ac arweinydd Cyngor Newcastle Nick Forbes.

Bydd argymhellion y tasglu’n sylfaen ar gyfer Confensiwn Cyfansoddiadol a fydd yn ceisio ffurfio fframwaith ffederal ar gyfer gwledydd a rhanbarthau Prydain.

Cyfansoddiad “ddim yn addas ar gyfer ei bwrpas”

Mewn datganiad, dywedodd Tasglu Datganoli Llafur nad yw cyfansoddiad Prydain “yn addas ar gyfer ei bwrpas”.

Ychwanegodd fod y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn “wrthdystiad rhannol o wledydd Prydain sydd wedi cael eu gadael ar ôl” a bod “anghydraddoldeb economaidd yn gyrru rhaniadau yn y DU”.

Dywedodd y tasglu y bydden nhw’n gofyn am bwerau ym meysydd amaeth, pysgodfeydd, polisi rhanbarthol a’r amgylchedd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

Ychwanegodd fod “cryfhau’r cwlwm rhwng ein pedair gwlad” yn allweddol i “bontio anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd”.

Diddymu Tŷ’r Arglwyddi

Fe fydd y tasglu hefyd yn galw am ddiddymu Tŷ’r Arglwyddi, gan gyflwyno Senedd Gwledydd a Rhanbarthau yn ei le.

Ychwanegodd y datganiad: “Llafur yw plaid datganoli, ar ôl cyflwyno Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cytundeb Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon a Maer Llundain.

“Ar ôl Brexit, rhaid i Lafur afael yn yr agenda unwaith eto.

“Dim ond trwy roi grym i’r gwledydd a’r rhanbarthau y gallwn ni fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, economaidd a chyfansoddiadol y genedl – ac uno ein teyrnas sydd wedi’i hollti’n sylweddol.”