Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
“Bydd llais Cymru’n cael ei glywed” yw neges y Prif Weinidog, Carwyn Jones ar y diwrnod y bydd Erthygl 50 yn cael ei danio.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi llofnodi’r llythyr sy’n dechrau’r cyfnod ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac fe fydd y llythyr yn cael ei gyflwyno i Frwsel heddiw.

Ac mae Carwyn Jones wedi pwysleisio safbwynt Cymru unwaith eto mewn papur gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd y Farchnad Sengl.

Mewn datganiad, dywedodd fod “heddiw yn nodi diwedd misoedd o ddyfalu a dechrau cyfnod allweddol o negodiadau a fydd yn siapio ein perthynas ag Ewrop a’r byd yn ehangach yn y dyfodol”.

‘Negodi synhwyrol’

Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i’r blaenoriaethau sydd wedi’u hamlinellu yn ein papur gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, sy’n rhoi mynediad llawn a dirwystr i’r Farchnad Sengl uwchlaw pob dim.

“Mae ein papur gwyn yn cyflwyno safbwynt negodi synhwyrol ar gyfer y DU gyfan. Yn wir, mae dull Llywodraeth y DU eisoes wedi’i ddylanwadu ganddo mewn meysydd pwysig, sy’n cynnwys cadw mynediad llawn i’r Farchnad Sengl, cynnal hawliau cyflogaeth presennol a phwysigrwydd y trefniadau pontio.”

‘Rhwystredigaeth’

Yn ôl Carwyn Jones, fe fu’r prosesau sydd wedi arwain at danio Erthygl 50 yn “destun rhwystredigaeth yn aml” i Gymru.

Ond mae’n dweud bod rhaid “canolbwyntio” ar yr hyn sydd i ddod yn sgil y trafodaethau.

“Rydyn ni’n barod i weithio mewn modd adeiladol gyda Llywodraeth y DU a sefyll ochr yn ochr â hi i daro bargen sy’n diogelu busnesau Cymru, ein heconomi ac sy’n sicrhau bod Cymru yn ffyniannus yn y dyfodol.”

Ychwanegodd y byddai “Cymru’n codi llais” pe na bai’r trafodaethau o fudd i’w phobol.

“Wrth i’r negodiadau fynd rhagddynt, os na fyddwn ni’n credu bod ein blaenoriaethau yn cael eu hyrwyddo neu os na fyddwn ni’n meddwl bod lefel ein cynrychiolaeth yn dderbyniol, fe fyddwn ni yn codi llais.

“Fyddwn ni ddim yn caniatáu i Gymru gael ei hanwybyddu – byddwn ni’n llafar ac fe fydd ein llais yn cael ei glywed.

“Fel arweinydd gwlad a bleidleisiodd i ymadael â’r UE, dw i’n gwbl ymroddedig i ddiogelu dyfodol Cymru. Byddwn ni’n ymateb i’r her ac yn gwneud popeth yn ein gallu i gyflawni’r canlyniad gorau posibl i Gymru.”