Llun: PA
Bydd Prif Weinidog Prydain yn anfon llythyr heddiw at Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, i’w hysbysu’n swyddogol fod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd hyn wedyn yn dechrau’r broses o danio Erthygl 50 a chyfnod o ddwy flynedd i drafod cytundebau cyn gadael yn derfynol.
Ac wrth i’r adroddiadau barhau am beth fydd cynnwys y llythyr hwnnw, mae golwg360 wedi gofyn am ymateb pleidiau Cymru a pha flaenoriaethau y maen nhw’n credu y dylai’r llythyr amlygu.
Plaid Cymru – ‘Amcanion amgen’
Eisoes, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad sy’n cynnwys “amcanion amgen” ar gyfer y llythyr sy’n nodi fod angen:
- i Gymru barhau ag aelodaeth o’r Farchnad Sengl ac undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd.
- Diogelu hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru.
- Gwarantu trefniadau cyllido rhaglenni Ewropeaidd fel Horizon 2020, Erasmus+, Ewrop Greadigol a Rhaglen Cymru-Iwerddon ynghyd â thaliadau amaethyddol gan ddatganoli rheolaeth bolisi.
- Sicrhau fod pwerau’n cael eu datganoli i Gymru ar ôl gadael yr UE
- Sicrhau llais i Gymru cyn bwrw’r cytundeb terfynol i adael yr UE.
“Nid diwedd y daith mo’r galwadau amgen hyn o ran gweledigaeth Plaid Cymru dros Gymru ac Ewrop,” meddai Leanne Wood.
“Camau nesaf ydynt mewn cenhadaeth barhaus i gynnal buddiannau cenedlaethol Cymru. Dros y blynyddoedd i ddod, rhaid i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol aros yn rheng flaen y trafodaethau hyn, nid yn unig o ran ymgynghori ond trwy ymwneud yn llawn yn yr holl drafodaethau,” ychwanegodd.
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Y Farchnad Sengl
“Mae aelodaeth o’r Farchnad Sengl yn hanfodol i’n heconomi, ein diwydiannau, ac ar gyfer swyddi miliynau o bobol,” meddai Mark Williams, AS Ceredigion.
“Nid oes modd cael Brexit caled ac economi gref, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu mai’r bobol ddylai gael y penderfyniad olaf ar gytundeb terfynol Brexit,” ychwanegodd.
Dyma bwyntiau negodi’r blaid:
- Gwarchod hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig, a dinasyddion y Deyrnas Unedig yng ngwledydd eraill Ewrop.
- Sicrhau symudiad rhydd ac aelodaeth o’r Farchnad Sengl
- Diogelu cynlluniau’r Undeb Ewropeaidd gan gynnwys Erasmus, buddsoddiadau mewn prifysgolion a rhwydweithiau ymchwil.
- Cynnal safonau amgylcheddol gan fynd i’r afael â newid hinsawdd a diogelu safonau cynnyrch amaethyddol.
Llafur Cymru – ‘trychinebus i Gymru’
“Yn anffodus mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cornelu ei hun drwy osod amodau sy’n awgrymu ein bod yn anelu am Brexit caled neu ddim cytundeb o gwbl,” meddai ASE Llafur i Gymru, Derek Vaughan.
“Bydd hyn yn drychinebus i Gymru,” meddai.
“Mae’r honiad y gallwn wneud yn well y tu allan i’r farchnad sengl yn afresymol. Mae’n bryd i Theresa May wneud yr hyn sydd orau i Gymru a’r Deyrnas Unedig yn hytrach na cheisio plesio’r asgell dde eithafol ar draul ein dyfodol,” ychwanegodd.
UKIP Cymru – cwblhau erbyn 2019
Mae UKIP Cymru wedi amlygu eu chwe blaenoriaeth nhw sy’n cynnwys:
- Prawf cyfreithiol fydd yn golygu y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael ag awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop.
- Prawf mudo gan adennill rheolaeth lawn dros fewnfudo a pholisïau ceisio lloches.
- Adennill pwerau arforol ar hyd arfordiroedd y Deyrnas Unedig.
- Y Deyrnas Unedig i adennill ei lle ar Sefydliad Fasnach y Byd (WTO) a chreu cytundebau â gwledydd eraill.
- Sicrhau na fydd taliad terfynol na thaliadau eraill i’r Undeb Ewropeaidd ar ôl gadael.
- Galw am gwblhau proses Brexit erbyn diwedd 2019.
Ceidwadwyr Cymreig – ‘partneriaeth newydd a hafal’
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: “wrth danio Erthygl 50, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio partneriaeth newydd a hafal – rhwng Prydain, fyd-eang annibynnol, hunanlywodraethol a’n ffrindiau a’n cynghreiriaid yn yr Undeb Ewropeaidd.”