Jordan James Lee Davidson, sy'n cael ei amau o lofruddio Nicholas Anthony Churton yn Wrecsam (Llun: Heddlu'r Gogledd)
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth i geisio dod o hyd i ddyn 25 oed sy’n cael ei amau o lofruddio pensiynwr “bregus” yn Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Crescent Close, Wrecsam am 8.23yb bore ddydd Llun, 27 Mawrth lle cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton, 67 oed.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies sy’n arwain yr ymchwiliad eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar bnawn dydd Iau, 23 Mawrth.

Mae’r heddlu’n credu bod Nicholas Churton wedi cael ei ladd rywbryd rhwng 2.45yp ddydd Iau a hanner nos ddydd Gwener, 24 Mawrth.

Mae archwiliad post mortem wedi dangos y bu farw Nicholas Churton o anafiadau difrifol i’w ben.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw a allai fod wedi gweld Jordan James Lee Davidson, 25 oed, rhwng 2.30yp dydd Iau, 23 Mawrth a bore dydd Llun, 27 Mawrth.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies: “Rwy’n credu bod Jordan James Lee Davidson rywle yn ardal Wrecsam ac er mwyn dod o hyd iddo mae’n hanfodol ein bod yn cael gwybodaeth gan y cyhoedd.”

Ychwanegodd  bod Nicholas Churton yn byw ar ei ben ei hun ac yn anabl. Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Arestio tri

Fel rhan o’u hymchwiliadau, bu’r heddlu’n chwilio eiddo yn Stryd Vernon, Rhosddu, Wrecsam ac yn Ffordd Llysfaen yn Hen Golwyn. O ganlyniad mae dyn 35 oed a dynes 27 oed, y ddau o Hen Golwyn, a dyn 27 oed o Wrecsam wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un sy’n gweld Jordan Davidson, neu’n gwybod lle mae o,  gysylltu â’r heddlu ar unwaith ond maen nhw’n rhybuddio pobl i gadw draw oddi wrtho gan y gallai fod ag arfau yn ei feddiant.

Er mwyn tawelu meddyliau’r cyhoedd mae swyddogion ychwanegol ar batrôl yn y dref, meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 101, neu’n ddienw gyda Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod V042465.