Llys y Goron Abertawe
Mae dyn o Ddyffryn Aman wedi cyfaddef iddo ymosod ar fferyllydd â chyllell.

Yn Llys y Goron Abertawe,  fe blediodd Peter Bellett yn euog i gyhuddiadau o anafu gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol ac o fod ag arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Yn wreiddiol roedd Peter Bellett, 69, wedi pledio’n ddieuog ond fe newidiodd ei ble ar ddiwrnod cyntaf yr achos heddiw.

Bu’n rhaid i’r fferyllydd, Michael Irons, dderbyn triniaeth yn Ysbyty Treforys yn dilyn yr ymosodiad yn Fferyllfa’r Garnant, Sir Gaerfyrddin ar Ragfyr 5 llynedd.

Mae’r gwrandawiad wedi cael ei ohirio wrth i’r awdurdodau geisio ddod o hyd i wely i Peter Bellett mewn uned iechyd meddwl.