Zoe Morgan a Lee Simmons Llun: Heddlu De Cymru
Ni fydd dedfryd dyn o Gaerdydd a lofruddiodd ei gyn-gariad a’i phartner newydd yn cael ei hadolygu, yn dilyn cwynion nad oedd yn ddigon llym.

Cafodd Andrew Saunders, 21, ei garcharu am oes ar ôl iddo gyfaddef trywanu ei gyn-gariad Zoe Morgan, 21, a’i phartner Lee Simmons, 33, i farwolaeth y tu allan i siop Matalan yng Nghaerdydd ar 28 Medi’r llynedd.

Bydd yn rhaid i Andrew Saunders dreulio isafswm o 23 mlynedd a phedwar mis dan glo cyn cael ei ystyried am barôl.

Ond yn dilyn y ddedfryd roedd teuluoedd y cwpl wedi dweud eu bod yn “siomedig iawn” gyda hyd y ddedfryd.

Fe gyhoeddwyd heddiw na fydd dedfryd Andrew Saunders yn cael ei hadolygu ar ôl i’r achos gael ei gyfeirio at y Twrne Cyffredinol.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Twrne Cyffredinol na fyddai’r ddedfryd yn cael ei chyfeirio at y Llys Apêl yn “dilyn ystyriaeth ofalus iawn.”

Daeth i’r casgliad na fyddai’r ddedfryd yn cael ei chynyddu gan y llys, meddai’r llefarydd.