Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i farwolaeth amheus ar ôl i gorff dyn gan ei ddarganfod mewn tŷ yn Wrecsam ddydd Llun.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r eiddo yn Crescent Close, Wrecsam am 8.23yb bore ddydd Llun, 27 Mawrth yn dilyn adroddiadau bod corff dyn canol oed wedi cael ei ddarganfod yn yr ardal.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies: “Rydym yn trin y farwolaeth fel un amheus. Mae ymchwiliad post mortem yn digwydd y bore yma.”

Yn y cyfamser, fel rhan o’u hymchwiliadau, maen nhw wedi bod yn chwilio eiddo yn Stryd Vernon, Rhosddu, Wrecsam ac ar Ffordd Llysfaen yn Hen Golwyn.

Nid oes rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda’r heddlu ar 101, neu’n ddienw gyda Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod V042465.