Bydd staff y GIG yn cael codiad cyflog o 1%
Bydd staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 1%.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd cyflogau mwy na 7,000 o’r gweithwyr sy’n ennill y cyflogau isaf yn derbyn y Cyflog Byw sef £8.45 yr awr.

Dyma fydd codiad cyflog cyntaf Prif Weithredwyr y GIG ers 2009 ac mi fydd cynnydd  hefyd i gyflogau meddygon a deintyddion sy’n cael eu cyflogi gan bractisau.

“Dw i’n dal i fod yn gwbl ymroddedig i daclo’r mater o gyflogau isel yng Nghymru a byddaf yn sicrhau bod y rhai sy’n ennill lleiaf yn GIG Cymru yn cael cyflog teg, fel y mae’r Living Wage Foundation yn ei argymell,” dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething.

“Dw i’n codi cyflogau i lefel y Cyflog Byw felly – i £8.45 yr awr – ar gyfer pob aelod o staff sy’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan y GIG, o 1 Ebrill 2017 ymlaen.”

Caiff y cyflogau eu codi yn unol ag argymhellion cyrff adolygu annibynnol Corff Adolygu Cyflogau’r GIG a Chorff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion.