Plismon yn San Steffan wedi'i ymosodiad (Llun jonathan brady/PA Wire)
Mae mam ymosodwr Llundain, Khalid Masood, wedi ymateb i’r hyn wnaeth ei mab gan ddweud ei bod wedi ei “brawychu” a’i “thristau.”

Dywed Janet Ajao, sy’n byw yn Nhrelech, Sir Gar nad yw hi’n arddel syniadau ei mab nac yn cefnogi ei “ymosodiad erchyll”.

Mewn datganiad drwy law’r Heddlu Metropolitan dywedodd: “Rwyf wedi fy mrawychu a fy nhristau gan weithredoedd fy mab wnaeth arwain at farwolaethau a niweidio nifer o bobol ddiniwed yn San Steffan.

“Hoffwn wneud yn hollol glir, fel nad oes amheuaeth, nid wyf yn gallu esgusodi ei weithredoedd nac yn cefnogi’r daliadau yr oedd yn arddel a wnaeth arwain at yr ymosodiad erchyll yma.”

‘Dim tystiolaeth o gysylltiad ag IS’

Cafodd Khalid Masood ei saethu’n farw gan blismyn arfog ar ôl iddo drywanu’r plismon Keith Palmer ger Palas San Steffan.

Dywed Scotland Yard nad yw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod Khalid Masood yn gysylltiedig â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) neu al Qaida ond ei fod yn “amlwg” bod ganddo ddiddordeb mewn jihad.

Mae IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Mae Janet Ajao yn cynnal busnes o’i ffermdy yn Nhrelech.

Mae’n debyg bu plismyn yn y pentref yn Sir Gaerfyrddin wythnos ddiwethaf, fel rhan o ymchwiliadau i’r ymosodiad yn Llundain pan gafodd pedwar person  eu lladd.