Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio apêl am wybodaeth yn dilyn cyfres o ladradau arfog ar siopau yn sir Ddinbych.

Bu’r lladradau diweddaraf yn Bargain Booze, Ffordd Wellington yn y Rhyl am 00.13, Mawrth 26, a siop Lifestyle Express ar Stryd Fawr Dyserth am 10.15, Mawrth 25.

Daw’r lladradau yma wedi digwyddiadau yn Llewelyn Stores ar Ffordd Trellewelyn yn y Rhyl ar Fawrth 23, a Apex Stores ym Mae Cinmel ar Fawrth 9.

Yn ystod pob lladrad mae’r troseddwyr wedi bygwth y staff ag arfau cyn gadael ag arian a sigaréts.

“Tawelu meddwl y gymuned”

“Yn ffodus dim ond un o’r perchnogion siop sydd wedi derbyn mân anafiadau o ganlyniad i’r lladradau hyn. Mae yna gynnydd bellach wedi bod ym mhresenoldeb yr heddlu yn yr ardaloedd hyn i atal troseddau tebyg yn y dyfodol,” medd y Ditectif Arolygydd Iwan Roberts.

“Rwyf eisiau tawelu meddwl y gymuned a busnesau bach ein bod ni yn gwneud popeth a fedrwn ni i symud ymlaen gyda’r ymchwiliad. Cafodd arestiadau eu gwneud yn barod, ond rydwyf yn awyddus i siarad ag unrhyw dystion i’r lladradau hyn dros yr wythnos ddiwethaf.”

Dylai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 gan nodi Ymgyrch Danism,  neu mae modd galw Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111.