Llun: PA
Cymru sy’n debyg o gael ei tharo waethaf yn sgil Brexit o’i gymharu ag unrhyw ran arall o’r  Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiad newydd.

Er bod Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r uned ymchwil annibynnol Demos yn rhybuddio y bydd y wlad yn cael ei heffeithio gan dollau newydd wrth fasnachu gyda’r UE, sy’n cymryd mwy na 60% o’i hallforion.

Mae Cymru hefyd yn wynebu colli grantiau’r Undeb Ewropeaidd, sydd ar hyn o bryd yn cynrychioli 1% o’i refeniw Gwerth Gros Ychwanegol (GVA) – mwy nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r sectorau sy’n wynebu cael eu heffeithio fwyaf gan Brexit caled, lle mae’r DU yn gadael y farchnad sengl, yw manwerthu, amaeth ac ynni, meddai Demos.

Fe allai cynnyrch llaeth y DU wynebu tariffau o hyd at 33.5% gyda chynhyrchwyr tybaco ac alcohol hefyd yn wynebu tollau costus.

Ymhlith y rhannau eraill o’r DU sy’n debyg o gael eu heffeithio mae Gogledd Iwerddon, sy’n wynebu colli arian yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd a Llundain a’r Gogledd Ddwyrain, sy’n dibynnu’n helaeth ar weithlu Ewropeaidd ac allforio i’r UE.