Llys y Goron Abertawe
Mae dyn, a ddringodd drwy ystafell wely dynes ac ymosod arni’n rhywiol, wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod yr heddlu wedi dal Andrew Check, 30, ar ôl iddo adael ôl ei esgid ar y safle.
Fe lwyddodd yr heddlu i gysylltu’r marc a adawodd ei trainers Fred Perry gyda’r ymosodwr wrth iddyn nhw gynnal ymholiadau o dy i dy yn Ninbych y Pysgod.
Roedd Andrew Check, rheolwr bar, wedi dringo drwy ffenestr ystafell wely’r ddynes yn ystod oriau man 9 Ionawr cyn ymosod arni wrth ddal cyllell wrth ei gwddf.
Cyn iddo adael, fe ddywedodd wrth y ddynes am ffonio’r heddlu ac fe wnaeth hi hynny.
Clywodd y llys ei fod wedi cael rhybudd gan yr heddlu yn 2011 am fod a delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Cafodd Andrew Check o Rodfa Greenhill, Dinbych y Pysgod, ddedfryd estynedig ar ôl i’r Barnwr Keith Thomas ddweud ei fod yn peri risg o gyflawni troseddau difrifol pellach.
Cafodd ei garcharu am 10 mlynedd gyda saith mlynedd estynedig ar drwydded.