Y darn punt newydd Llun: PA
Y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn ne Cymru sydd wedi cynhyrchu’r darnau arian £1 newydd fydd yn dod i gylchrediad cyhoeddus ddydd Mawrth.

Mae deuddeg ochr i’r darnau newydd fydd yn cymryd lle’r darnau cylch sydd wedi bod o gwmpas am fwy na 30 mlynedd.

Mae cylchyn allanol y bunt newydd yn aur a’r cylchyn mewnol yn arian, ac mae ei ochrau onglog yn golygu y bydd yn rhaid addasu miloedd o beiriannau talu a throliau archfarchnadoedd dros y misoedd nesaf.

Mae pobol yn cael eu hannog i wario neu i fancio’r hen bunnoedd fydd yn colli eu gwerth cyfreithiol ar Hydref 15 eleni.