Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi dyn 19 oed a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion fore Sadwrn.
Roedd Joe Hulston o Benparcau ger Aberystwyth yn gyrru Ford Fiesta arian pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd yn Llancynfelyn.
Bu farw yn y fan a’r lle, ac mae’r heddlu’n credu i’r gwrthdrawiad ddigwydd toc wedi 3.15 y bore.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth.