Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Mae ceisio rhesymu â Llywodraeth Geidwadol Prydain tros fater Brexit “fel siarad gyda’r wal”, yn ôl Leanne Wood.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru y byddai ei phlaid yn blaenoriaethu economi Cymru wrth i’r trafodaethau tros adael yr Undeb Ewropeaidd barhau.

Ychwanegodd ar raglen Sunday Politics Wales y byddai’n brwydro yn erbyn “Brexit Ceidwadol eithafol”.

Tynnodd hi sylw yn ystod y rhaglen at bwysigrwydd y Farchnad Sengl, gyda 67% o allforion Cymreig yn mynd i’r Farchnad Sengl, ynghyd â 90% o allforion cig oen Cymru.

‘Problemau ar y gorwel’

Dywedodd Leanne Wood wrth y rhaglen: “Rhaid i’r Ceidwadwyr gyfiawnhau pam eu bod yn credu bod ein tynnu allan o’r Farchnad Sengl yn syniad da.

“Mae nifer o undebau ffermio ac arweinwyr diwydiant wedi eu rhybuddio o’r problemau ar y gorwel pe baem yn gadael y Farchnad Sengl.

“Mae ceisio rhesymu gyda’r Prif Weinidog a’r Ceidwadwyr fel siarad gyda’r wal. Nid ydynt yn gwrando ar y lleisiau niferus sy’n galw am gynnal ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl ar ôl Brexit.

“Rhaid iddynt gadw’r addewid na fydd Cymru’n colli ceiniog o nawdd ar ol gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd nifer o bobl i Adael gyda ffydd yn yr addewidion hynny o ran cyllido ein cenedl.

“Dyna ddigon ar eiriau gwag y Ceidwadwyr – rhaid iddynt un ai gynnig addewid cwbl gadarn neu gyfaddef eu bod wedi camarwain etholwyr.”

Gwarchod hawliau

Galwodd Leanne Wood hefyd am warchod hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Ar hyn o bryd, mae ansicrwydd a phryder mawr i’r miloedd o ddinasyddion sydd wedi ymgartrefu yma.

“Nid yw’n iawn eu bod yn cael eu defnyddio fel arfau gwleidyddol yn nhrafodaethau Brexit.

“Y gwirionedd yn y Gwasanaeth Iechyd Cymreig yw eich bod yn fwy tebygol o gael eich trin gan fewnfudwr na gweld un yn y ciw.”