Gerald Macey (Llun: Heddlu'r De)
Mae Heddlu’r De wedi enwi’r dyn 55 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Abertawe yr wythnos diwethaf.

Bu farw Gerald Macey ar ôl cael ei daro gan oleuadau traffig yng Ngorseinon brynhawn dydd Gwener.

Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a’i ryddhau ar fechnïaeth ar ôl i’w gar daro’r goleuadau ychydig cyn iddyn nhw gwympo.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.

Teyrnged y teulu

Mewn datganiad i Gerald Macey, dywedodd ei deulu: “Roedd Gerald yn ŵr, tad, tad-cu, mab, brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr cariadus ac annwyl.

“Doedd gan neb air drwg i’w ddweud amdano fe erioed.

“Roedd e’n gymeriad llawn hwyl, bob amser yn brysur a fyddai e byth yn eistedd.

“Ers colli ei wraig Jackie 12 o flynyddoedd yn ôl, roedd Gerald wedi ymroi’n llwyr i’w blant, Melanie a Sean a’i ŵyr.

Ychwanegodd ei deulu ei fod e wrth ei fodd yn gwylio ffilmiau a’i fod e wedi ymddeol ar ôl gweithio yn y byd adeiladu a’r diwydiant glo.