(llun gan esgobaeth Bangor)
Mae Cristnogion a Mwslimiaid yn gwahodd pobl o bob ffydd i ymuno â nhw i weddïo dros heddwch mewn gwylnos yn Eglwys Gadeiriol Bangor nos Fercher nesaf.

Mae’r Imam Canolfan Islamaidd Bangor, Mirazam Khan, a Deon Bangor, y Tra Pharchedig Kathy Jones, yn cynnal y digwyddiad  i gofio am yr ymosodiad yn Llundain wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Deon Bangor: “Yn dilyn y digwyddiadau trasig a thrist yn Llundain ddydd Mercher diwethaf, hoffai’r Imam a finnau gwahodd pobl o bob ffydd at ei gilydd i dreulio amser gyda’n gilydd, i ddangos bod gennym lawer yn gyffredin, y gallwn fod yn gytûn yng nghwmni ein gilydd wrth ofyn i Dduw i gysuro’r rhai sy’n dioddef ac i ddod â heddwch gyda’n gilydd.”

Bydd yr Wylnos, a fydd yn awr o hyd, yn cychwyn am 5.30pm ddydd Mercher.