Cymru fel ‘gwlad o swyddi teg’ fydd y weledigaeth a gaiff ei hamlinellu gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno heddiw.
Fe fydd yn tynnu sylw at drafodaethau’r wythnos nesaf rhwng Llywodraeth Cymru a TUC Cymru a sefydliadau busnes ar sefydlu Comisiwn Gwaith Teg.
Nod y comisiwn fydd:
- cyfle am well swyddi yn nes adref i bawb
- gwaith teilwng i bawb, heb camfanteisio na thlodi
- ffyniant i bawb gyda phawb yn cael eu siâr.
Dywed Carwyn Jones fod Llywodraeth Cymru’n rhoi blaenoriaeth uchel i swyddi a thwf ym mhob agwedd o’u gwaith.
“Mae lefel diweithdra’n is yng Nghymru na’r hyn yw ym Mhrydain ar gyfartaledd, ac yn is nag yn Llundain, yr Alban a’r mwyafrif o ranbarthau Lloegr,” meddai.
“Mae gwaith yn bwysig,” meddai. “Ond mae tâl hefyd. A thegwch yn y gwaith. A sicrwydd a chynhyrchiant.
“Mae gen i eisiau adeiladu economi lle mae mwy o bobl yn cael cyfle am waith da ac incwm sicr.”