Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio ar ôl i gerddwr gael ei ladd mewn gwrthdrawiad ar Stryd Fawr Gorseinon tua 4.15 brynhawn ddoe.

Mae dyn 21 oed o ardal Uplands yn Abertawe wedi
cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru peryglus. Mae’n dal i fod yn y ddalfa.

Fe fu farw’r cerddwr, dyn 55 oed lleol, ar ôl i’r car BMW daro set o oleuadau traffig.

Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw dystion gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555111 gan nodi cyfeirnod 1700111007.