Mae newyddiadurwr blaenllaw wedi awgrymu y gallai gwefan newyddion Saesneg newydd neu adran newyddiadurol prifysgol brynu papur newydd Y Cymro.

Roedd Eifion Glyn, a dreuliodd cyfnod yn y 1970au yn gohebu i’r wythnosolyn, yn cyfeirio at brosiect newydd y darlithydd a’r newyddiadurwr, Ifan Morgan Jones – gwefan newyddion Nation.Cymru.

Wrth gael ei holi am bwy fyddai orau i gymryd awenau’r Cymro, atebodd Eifion Glyn mai “unrhyw un fyddai’n medru gwneud llwyddiant o’r peth”.

“Dw i’n licio syniad Ifan Morgan Jones, sy’n trio sefydlu’r wefan yma rŵan yn Saesneg, a bydd yna rywfaint o Gymraeg arni,” ychwanegodd.

“Tybed a fyddai modd i rywun fatha’ Ifan gyplysu hynny efo papur fel Y Cymro? Dw i ddim yn gwybod.”

Awgrymodd hefyd y gallai adran newyddiadurol Prifysgol Caerdydd brynu’r fenter.

Daw hyn ar ôl i gyhoeddwyr Y Lolfa ddweud nad ydyn nhw mewn sefyllfa i gymryd y papur dan ei adain.

Yn ôl Eifion Glyn, mae’r byd newyddiadurol wedi “newid yn llwyr” ers oes aur Y Cymro yn y ganrif ddiwethaf, a’i fod yn “gyfnod anodd iawn” i’r cyfryngau print heddiw.

“Y piti ydi, yng Nghymru, mae sefyllfa’r wasg mor gythreulig o fregus, ychydig iawn o ohebu am faterion Cymreig a Chymraeg sydd yna.

“Mae’n ddyddiau dreng iawn, iawn ac mae’n eironig bod hyn yn digwydd mewn cyfnod pan mae gennym ni Senedd ar ein tir ein hunain am y tro cyntaf ers canrifoedd, lle mae angen mwy o ohebu a chraffu ar yr hyn sy’n digwydd.

“Dw i’n dal i gael Y Cymro, ond dw i wedi sylweddoli ers tro bod hi’n fain arnyn nhw o ran eu staff ac o ran yr arian ac yn y blaen a bod o’n mynd yn deneuach o ran ei gynnwys.”

Adlewyrchu sefyllfa’r Gymraeg

Mae cwymp Y Cymro yn adlewyrchu sefyllfa’r Gymraeg, yn ôl y newyddiadurwr,  a fu’n ffigwr amlwg fel uwch-gynhyrchydd ar raglen materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar.

“Mae’n mor anodd cystadlu efo cyhoeddiadau Saesneg, mae argyfwng y wasg Gymraeg yn adlewyrchu argyfwng y Gymraeg go iawn.

“Mae’n anodd i iaith leiafrifol fel y Gymraeg ochr yn ochr ag iaith mor bwerus fel Saesneg ac mae’r un peth yn wir am gyhoeddiadau Cymraeg felly.

“Mae lot o newyddiaduraeth Gymraeg, er bod torri ar adnoddau, mae safon newyddiaduraeth Gymraeg yn dal yn dda, ond dydy o ddim yn cael ei farchnata, dydy o ddim yn cael ei hysbysebu fel mae pethau Saesneg.

“Mae llai a llai o newyddiadura go iawn yn digwydd erbyn heddiw oherwydd y prinder adnoddau, be ydach chi angen ydi newyddiadurwyr i ymchwilio’n iawn.

“Mae clywed y Llywodraeth yn y Bae yn sôn am gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ond does ‘na ddim strategaeth ganddyn nhw, mae o jyst yn ddarniog.

“Efo’r ewyllys iawn, mi allet ti wneud hynny ond mae’n rhaid i chi gael yr ewyllys ac mae cael gwasg fywiog, Gymraeg yn hanfodol i’r math yna o ddatblygiad.

“Os wyt ti’n mynd i gael miliwn o siaradwyr, mae eisio cael nhw i ddarllen papur Cymraeg a chylchgronau Cymraeg.”

Mae golwg360 wedi ceisio cael ymateb gan Ifan Morgan Jones.