Fe wnaeth Gareth Hughes hel ei bac am Ddulyn i wylio gêm Cymru cyn sesiwn holi’r Prif Weinidog yr wythnos hon ond mae clecs yr wythnos i gyd ganddo.

Un yw’r si o fewn carfannau’r Ceidwadwyr Cymreig fod dyddiau Andrew RT Davies yn dirwyn i ben – mae rhai eisiau ei weld e’n mynd erbyn etholiad y Cynulliad nesaf.

Byddwn ni hefyd yn clywed gan Jeremy Miles, Aelod Cynulliad Llafur Cymru, cyn cynhadledd y blaid yn Llandudno dros y penwythnos.

Wrth i’r blaid yng Nghymru drafod ei dyfodol a’r posibilrwydd o gael mwy o bwerau, mae Jeremy Miles yn dweud ei fod am weld llais cryfach Cymreig o fewn y Blaid Lafur ganolog.

Tybed beth fydd ymateb Jeremy Corbyn i hyn oll?