Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wrthi’n ymladd tân mewn canolfan ieuenctid yn Acrefair ger Wrecsam.
Mae ugain o ymladdwyr tân wrth y gwaith, wedi i’r frigad gael ei galw i Faes Derwydd toc cyn 4 o’r gloch y bore.
Does yna ddim adroddiadau o unrhyw anafiadau ar hyn o bryd.
Mae ffyrdd wedi’u cau yn yr ardal tra bod y gwaith o ymladd y tân yn parhau. Mae’r gwasanaethau brys yn gofyn i bobol osgoi Ffordd Llangollen, Ffordd Bethania a Stryd y Capel.