Elinor Bennett
Er bod un o delynorion amlyca’ Cymru wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi £10,000 yr un i gynghorau sir brynu offerynnau cerdd i ddisgyblion – mae’n galw am gamau pellach i ariannu athrawon cerdd.

“Mae cael £10,000 yn beth da ac yn help mawr wrth gwrs,” meddai Elinor Bennett, un o Gyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon, “ond dw i ddim yn siŵr pa mor bell yr aiff o… chewch chi’r un delyn am hynna er enghraifft, ond mi gewch chi dipyn mwy o ffidlau,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n falch ofnadwy eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] yn gweld yr angen i gefnogi cerddoriaeth mewn ysgolion, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ariannu athrawon fydd yn gallu darparu’r gwersi gyda’r offerynnau hyn,” meddai gan gyfeirio at athrawon peripatetig.

‘Gwahaniaethau’ ar draws Cymru

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd pob Cyngor Sir yng Nghymru yn cael £10,000 ychwanegol i brynu offerynnau cerdd i ddisgyblion.

Mae hyn yn gyfanswm o £220,000 ac yn dilyn cyhoeddiad fis diwethaf am roi £1 miliwn i hybu sgiliau cerddorol plant gan sefydlu Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.

Ond, yn ôl Elinor Bennett, mae “gwahaniaethau’n parhau” ar draws Cymru o ran y ddarpariaeth gerddorol sydd ar gael.

“Mae’r arian newydd am fod yn hwb mawr mewn ardaloedd fel yma yng Ngwynedd achos mae tipyn o offerynnau ar gael yn barod,” meddai.

“Ond mewn ardaloedd eraill efallai nad oes cymaint o offerynnau ar gael beth bynnag felly dydy o ddim yn mynd i ddatblygu ymhellach.

“Mae Powys ynghanol Cymru efo ychydig iawn o weithgaredd cerddorol, a dw i’n teimlo ei fod o’n patchy iawn ar draws ardaloedd daearyddol gwahanol o Gymru.

‘Cariad a thalent gerddorol’

Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad dywedodd Kirsty Williams: “Nid oes modd i gariad a thalent gerddorol person ifanc ddatblygu oni bai ei fod yn cael y cyfle i chwarae offeryn cerdd o’i ddewis, yn arbennig y rheini sydd am symud ymlaen i’r lefel nesaf a chael hyfforddiant cerddorol ar lefel unigol.

“Rydym hefyd yn gweithio gyda chynghorau i lunio dull o rannu offerynnau yn genedlaethol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud gwell defnydd o’u stoc bresennol o offerynnau, a gweld lle mae bylchau yn bodoli,” meddai wedyn.