Ken Skates ar y lôn newydd yng Nghaerdydd
Bydd ffordd gyswllt newydd Dwyrain y Bae ar agor i fysiau a choetsys erbyn rownd derfynol pencampwriaeth UEFA yng Nghaerdydd ym mis Mehefin, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi.

Wrth ymweld â’r prosiect heddiw sydd werth £57m, dywedodd Ken Skates y bydd y ffordd yn “lliniaru tagfeydd ynghanol y ddinas” ac yn “gwella’r cysylltiadau â Bae Caerdydd.”

Esboniodd Ken Skates mai bysiau a choetsys fydd yn manteisio ar y ffordd i ddechrau dros benwythnos terfynol Cynghrair y Pencampwyr ddechrau Mehefin – ond y bydd yn agor i’r cyhoedd wedi hynny.

‘Digwyddiad chwaraeon mwyaf 2017’

“Mae’n wych gweld ffordd gyswllt Dwyrain y Bae bron â’i chwblhau… ac yn y tymor byr, bydd yn cyfrannu at lwyddiant digwyddiad chwaraeon mwyaf 2017,” meddai Ken Skates.

Cyfeiriodd hefyd at Ras Cefnfor Volvo fydd yn cael ei chynnal yng Nghymru flwyddyn nesaf gan ddweud: “bydd y digwyddiadau hyn yn golygu y bydd miloedd o ymwelwyr ychwanegol yn dod i Gymru ac i Gaerdydd yn benodol, ac mae’n hollbwysig bod ein seilwaith cystal â’n huchelgais.

“Bydd y ffordd gyswllt ar agor i fysiau a choetsus trwy gydol penwythnos terfynol Cynghrair y Pencampwyr – gan gynnig ffordd gyflym a hawdd o deithio yn ôl ac ymlaen o Fae Caerdydd, a bydd ar agor i bob cerbyd yn fuan wedi’r digwyddiad,” ychwanegodd.