Mae dyn 45 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad yn ardal Merthyr Tudful yr wythnos hon.

Mae dyn arall, 35 oed, yn parhau mewn “cyflwr difrifol ond sefydlog” yn Ysbyty Prifysgol Cymru.

Bydd Robert Jones o Benydarren yn ymddangos o flaen Llys yr Ynadon Merthyr Tudful heddiw.

Mae wedi ei gyhuddo yn dilyn ymosodiad yn ardal Dowlais ddydd Mawrth (Mawrth 21).