Mae rhieni eisiau gweld pob awdurdod lleol yn cynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg.

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r rhaglen ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif’ i gynnwys maen prawf penodol fyddai’n gwneud cynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yn ofynnol.

Daw’r alwad wrth i RhAG lythyru siroedd Merthyr, Wrecsam, Fflint, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent, siroedd sydd wedi gwario niferoedd isel ar ysgolion Cymraeg ers sefydlu’r rhaglen yn 2011.

Ym Mlaenau Gwent cafodd 0% ei glustnodi i ysgolion Cymraeg o gymharu â Sir Gaerfyrddin lle mae 80% wedi ei glustnodi.

Yn ôl RhAG, mae yna ddiffyg prosiectau sy’n ymwneud ag addysg Gymraeg o fewn rhaglen ‘Ysgolion y 21ain Ganrif’ ac mae hyn yn “peri gofid gwirioneddol”.

Rhaid ymateb

“Mae’n anorfod bod angen cyllid ychwanegol sylweddol i ehangu addysg Gymraeg ond nid oes unrhyw gyllid ychwanegol wedi’i glustnodi i gefnogi tyfu’r sector,” medd Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, Lynne Davies.

“Nid yw blaenoriaethau’r rhaglen bresennol o unrhyw gymorth i Addysg Gymraeg ac mae’n rhaid ymateb i hynny ar fyrder … Dim ond trwy gynnwys maen prawf penodol i gynyddu addysg Gymraeg yn ystod cyfnod ariannu nesaf y rhaglen y gellir sicrhau hynny.”

Bydd cyfnod ariannu cyntaf y rhaglen bresennol yn dod i ben yn 2019.