Cerys Yemm (Llun: Heddlu Gwent)
Mae cwest i farwolaeth Cerys Yemm wedi clywed bod y ferch 22 oed wedi colli ei llygad mewn ymosodiad cyn cael ei lladd mewn gwesty.

Dioddefodd y ferch 22 oed o leiaf 89 o anafiadau yn yr ymosodiad gan Matthew Williams, 34, yng ngwesty’r Sirhowy Arms yn Argoed ger y Coed Duon ar 6 Tachwedd 2014.

Cafodd hi anafiadau i’w hwyneb a’i gwddf.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle gan y perchennog Mandy Miles ar ôl i drigolion glywed sgrechian.

Aeth hi i’r ystafell a gweld Cerys Yemm yn cael ei “bwyta” gan Matthew Williams, oedd yn parhau i ymosod ar ei chorff.

Ond mae tystiolaeth i brofi nad oedd e’n ei bwyta hi, mewn gwirionedd.

Anafiadau

Dywedodd y patholegydd Richard Jones wrth y cwest mai fe oedd wedi cwblhau’r archwiliad post-mortem a bod anafiadau ar 24 rhan o gorff Cerys Yemm, a bod ganddi 89 o anafiadau gwahanol.

Roedd hanner yr anafiadau i’w phen, meddai, oedd wedi’u hachosi gan ergydion, sgathriadau a brathiadau.

Dywedodd ei bod hi wedi cael anafiadau i’w llygaid, a bod un llygad wedi cael ei thynnu o’i phen, a bod ganddi hefyd anafiadau i’w thrwyn, ei chlustiau a’i cheg.

Dywedodd mai ergydion i’w phen a’i gwddf oedd achos ei marwolaeth, ynghyd â cholli gwaed.

Matthew Williams

Roedd Matthew Williams yn aros yn y gwesty ar ôl cael ei ryddhau o garchar Y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr bythefnos cyn yr ymosodiad.

Cafodd ei arestio yn y gwesty a’i dawelu â taser, a bu farw mewn ambiwlans yn ddiweddarach.

Clywodd y cwest ei fod e wedi cyfarfod â Cerys Yemm ar noson allan a’u bod nhw wedi treulio’r prynhawn yn nhŷ ffrind Matthew Williams cyn dychwelyd i’r gwesty.

Pan gafodd ei arestio, roedd gan Matthew Williams meffedron ac amffetaminau yn ei feddiant.