Mae £31.4m wedi ei chyhoeddi ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth ar draws Cymru.

Bydd 109 o brosiectau awdurdodau lleol ledled Cymru yn elwa o’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.

Daw’r arian o sawl cronfa wahanol gan gynnwys y Gronfa Trafnidiaeth Leol, Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd, Grant Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau.

Nod y buddsoddiad yw creu Cymru fwy cysylltiedig ag i wella diogelwch ffyrdd.

Mae hefyd disgwyl y bydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn cyhoeddi prosiectau llwyddiannus Coridor Teithio Llesol Gogledd Casnewydd, yng Nghasnewydd heddiw.