Leanne Wood. arweinydd Plaid Cymru
Mae disgwyl i Blaid Cymru alw ar bleidleiswyr i anfon “neges i San Steffan a Bae Caerdydd” wrth bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar Fai 4.

Wrth  lansio ymgyrch ei phlaid yng ngwesty’r Heritage Park yn y Rhondda, bydd Arweinydd y blaid, Leanne Wood, yn galw ar y genedl i beidio â “gwobrwyo methiant y pleidiau eraill”.

Fe fydd hi hefyd yn amlygu’r gwahaniaethau rhwng Plaid Cymru a phleidiau eraill gan ddatgan bod y blaid ar ochr y werin bobol “nid yr elît gwleidyddol a biwrocrataidd”.

Mae pedwar Cyngor wedi bod dan reolaeth Plaid Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, sef Ceredigion, Conwy, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.

Mae’n debyg bod cyflogau uwch-swyddogion ar gyfartaledd 22% yn is yn y cynghorau yma nac mewn cynghorau dan arweiniad y blaid Lafur, ac mae disgwyl i Leanne Wood dynnu sylw at hyn hefyd yn ei haraith.