Shannon Rogers (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wrth chwilio am ferch yn ei harddegau sydd ar goll.

Nid yw Shannon Rogers, 13, wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref ar ffordd Plymouth Wood yn Nhrelái ger Caerdydd rhywbryd wedi 4yb dydd Mawrth, 21 Mawrth.

Nid oedd wedi mynd i’r ysgol ac mae swyddogion yr heddlu wedi apelio arni i gysylltu â’i theulu i ddweud ei bod yn ddiogel.

Mae Shannon Rogers yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra ac o faint canolig.

Mae ganddi wallt hir, syth sydd yn aml wedi clymu nôl.

Y gred yw ei bod hi o hyd yn gwisgo ei gwisg ysgol – cot ysgafn, â phwyth glas a bathodyn ysgol – ynghyd a’i hesgidiau Timberland glas a bag ‘Batman’ melyn a du.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod *106192.