Mae dros hanner cynghorau Cymru wedi gweld cwmnïau preifat yn cefnu ar eu cytundebau gwasanaethau gofal oherwydd diffyg arian, yn ôl gwaith ymchwil BBC Cymru.

Yn ôl Week In Week Out, roedd 59% o gynghorau Cymru yn dweud bod cwmnïau preifat wedi rhoi’r gorau i’w cytundebau i ddarparu gwasanaeth gofal.

Mae’n debyg bod cyfyngiadau ariannol yn golygu nad yw cwmnïau gwasanaeth gofal iechyd yn medru parhau i ddarparu eu gwasanaeth gan nad yw cynghorau yn medru talu symiau digonol.

Bu’n rhaid i gwmni Cymorth Llaw ym Mangor rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth gofal i Gyngor Conwy wedi 17 mlynedd oherwydd nad oedd y Cyngor ond yn gallu talu mwy na £15 yr awr am y gwasanaeth.

Ar ddechrau’r mis gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi eu bod am wario £2 biliwn ychwanegol dros dair blynedd er mwyn gwella gwasanaeth gofal yn Lloegr.

Yn ystod Cyllideb y Gwanwyn datgelodd y Canghellor, Philip Hammond y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £200 miliwn ychwanegol i’w cyllid ond nid yw’n glir sut gaiff yr arian ei wario.

“Gwir anobaith”

“Yng Nghymru, gwelwn wir anobaith gan rhai darparwyr sydd yn gweithio’n galed i geisio sicrhau ei bod yn parhau i weithio ar gyfraddau sydd yn cael eu talu gan gynghorau lleol,” meddai Colin Angel o Gymdeithas Gofal Cartref y Deyrnas Unedig.

“Mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gwelwn ddarparwyr gofal yn cefnu ar y gwaith neu’n mynd allan o fusnes yn gyflymach nac yng ngweddill y wlad. Gobeithiaf fod Llywodraeth Cymru yn trin hyn o ddifri.”

“Sector strategol bwysig”

“Mae gofal cartref yn allweddol i helpu pobl i aros gartref a chadw’u hannibyniaeth gymaint ag sy’n bosib. Dyna pam ein bod yn cydnabod bod y sector hwn yn un strategol bwysig yn genedlaethol,” meddai  llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi bwrw ymlaen â rhaglen i drawsnewid y sector “strategol bwysig” ac wedi darparu £10 miliwn i helpu i reoli effaith y cyflog byw cenedlaethol ond maen nhw hefyd am weld cydweithio agosach.

“Allwn ni ddim taclo’r heriau sy’n wynebu’r sector ar ein pen ein hunain. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n comisiynu gwasanaethau gofal cartref a’r rhai sy’n darparu’r gwasanaethau gyfrannu hefyd at wella’r sector. Dyna pam rydyn ni’n cydweithio’n agos gyda nhw ar hyn.”

Week In, Week Out: The Real Cost of Caring, Nos Lun, 20 Mawrth, BBC One Wales, 8.30yh