System drafnidiaeth Metro De Cymru Llun: LLywodraeth Cymru
Bydd pencadlys newydd y sefydliad fydd yn goruchwylio cynllun rheilffyrdd nesaf Cymru a chynllun Metro De Cymru yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Bydd pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn cael ei leoli ym Mhontypridd ac yn dod â channoedd o swyddi i’r dref, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd pencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru yn dod â channoedd o swyddi o safon uchel i’r ardal.

“Mae hyn yn newyddion gwych i’r dref, ond mae angen i hyn fod yn ddechrau ar rhywbeth mwy.  Mae angen inni hefyd gydweithio â phartneriaid o fewn yr awdurdodau lleol a’r sector preifat, yn ogystal â cholegau a phrifysgolion lleol i sicrhau bod y swyddi hyn yn sbarduno adfywiad a llewyrch ehangach yn lleol,” meddai.

“Twf economaidd cytbwys”

Daw’r cyhoeddiad cyn iddo annerch cynulleidfa fusnes yng Ngholeg y Cymoedd ym Mharc Nantgarw, Caerdydd.

Mae disgwyl iddo bwysleisio’r angen i Gymru ddatblygu ei heconomïau rhanbarthol ac i sicrhau twf economaidd cytbwys ar draws y wlad.

Bydd yn galw am newid “strwythurau datblygu economaidd o fewn y llywodraeth” ac am gydweithio rhwng rhanbarthau i sicrhau fod pawb yn elwa o dwf economaidd Cymreig yn y dyfodol.

“Rydym yn wynebu heriau economaidd mawr, fydd yn cynyddu wedi inni adael yr UE, ansicrwydd byd-eang, a thoriadau lles a chyni gan Lywodraeth y DU.

“Mae’n rhaid ymateb drwy gydweithio a datblygu economïau rhanbarthol mwy cadarn os ydym i greu economi gryfach a thecach i bawb ym mhob ardal o Gymru.”