Sylwadau oddi ar dudalen Twitter Felix Aubel
Mae arweinwyr Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi dweud iddyn nhw gael eu “siomi’n arw” â sylwadau’r Parchedig Ddoctor Felix Aubel.

Dywedodd e ar Twitter y dylid ail-gyflwyno erledigaeth grefyddol.

Roedd yn ymateb i neges Twitter blogiwr asgell dde eithafol o Sweden pan wnaeth y sylwadau am efelychu’r hyn yr oedd Cristnogion Sbaen yn ei wneud ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, sef Chwil-lys Sbaen (y ‘Spanish Inquistion’).

Fel rhan o hyn, roedden nhw’n erlid ac yn arteithio Mwslemiaid ac Iddewon a’u llosgi’n fyw ar y strydoedd.

Datganiad

Mewn datganiad, dywedodd arweinwyr Undeb yr Annibynwyr fod y fath sylwadau’n “wrthun gennym”.

Mae’r datganiad wedi’i lofnodi gan Lywydd yr Undeb, D Glyn Williams, yr is-lywydd y Parchedig Jill-Hailey Harries a’r ysgrifennydd cyffredinol, y Parchedig Ddoctor Geraint Tudur.

“Rydym yn parchu hawl gweinidog – fel pawb arall – i fynegi barn, ond mae’r sylwad a wnaed gan Dr Felix Aubel yn hollol annerbyniol.

“Er nad oes gan yr Undeb unrhyw awdurdod dros weinidog nag eglwys Annibynnol, mae’n amlwg yn ôl yr ymateb o sawl cyfeiriad dros y tridiau diwethaf yma ein bod ni, fel Annibynwyr a Christnogion yn gyffredinol, yn cael ein pardduo ar gam o ganlyniad i sylwad un unigolyn.

“Felly, rydym am ddatgan yn hollol glir a diamwys bod goddefgarwch crefyddol yn egwyddor ganolog i’n traddodiad ni fel Annibynwyr.

“Mae erledigaeth grefyddol, ac unrhyw awgrym o gefnogaeth i hynny, yn wrthun gennym.

“Rydym hefyd wedi datgan o’r blaen fel Undeb ein bod am groesawu’r sawl sy’n ffoi rhag rhyfel, trais ac erledigaeth gyda breichiau agored. Gobeithio bod hyn yn gwneud ein safiad yn hollol eglur.”