Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad merch 17 oed o’i chartref ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Dydy Megan Sparey ddim wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref ym Merthyr Mawr am 5 o’r gloch brynhawn dydd Gwener.

Mae hi’n 5’1″ a chanddi wallt melyn cyrliog hyd at ei hysgwyddau.

Pan aeth hi ar goll, roedd hi’n gwisgo siaced guddliw parka.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.