Mae Heddlu’r De wedi bod yn trydar cyngor i gefnogwyr tîm rygbi Cymru sydd wedi teithio i Ffrainc.

Fe fydd Cymru’n herio Ffrainc ym Mharis y prynhawn yma ar y diwrnod pan fo diogelwch yn y brifddinas wedi cynyddu yn sgil yr ymosodiad brawychol ym maes awyr Orly yn gynharach heddiw.

Mae’r cyngor gan yr heddlu, sy’n defnyddio’r hashnod #adviceforfans, yn cynnwys gwybodaeth am wefan sy’n cynnig cyfieithiadau cyflym o’r Ffrangeg:

Mae cefnogwyr hefyd yn cael eu cynghori i ddilyn cyfrifon Twitter www.twitter.com/ParisAeroport a www.twitter.com/StadeFrance

Dywed yr heddlu y dylai cefnogwyr wrando ar gyngor gan awdurdodau lleol yn Ffrainc, swyddogion yn y maes awyr a threfnwyr teithiau: