Mae’r ystrydeb fod pobol sy’n byw yng nghefn gwlad yn gyfoethog a bod ganddyn nhw safon iechyd uwch na phobol mewn ardaloedd eraill yn anghywir, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl adroddiad y Gymdeithas Llywodraeth Leol, mae pobol sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig yn wynebu rhwystrau difrifol i iechyd da a bywydau cymdeithasol.

Dywed yr adroddiad  bod “gwir galedi” yn bodoli mewn ardaloedd arfordirol, cymunedau ôl-ddiwydiannol a threfi ar lan y môr.

Tlodi

Mae’n debyg bod 15% o deuluoedd yng nghefn gwlad yn byw mewn tlodi pan gaiff costau tai eu hystyried, ac mae teuluoedd yng nghefn gwlad yn fwy tebygol o wynebu tlodi tanwydd na’r rheiny mewn ardaloedd trefol.

Mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o safon is yng nghefn gwlad, meddai’r adroddiad, ac mae diffyg argaeledd y rhyngrwyd band eang a rhwydweithiau ffonau symudol hefyd yn cyfrannu at y “bwlch rhwng llefydd gwledig a dinesig.”

O ran darpariaeth gwasanaeth iechyd, mae 20% o bobol yng nghefn gwlad yn byw dros ddwy filltir a hanner i ffwrdd o feddygfa, ac mae 45% yn byw dros bum milltir i ffwrdd o ysbyty.