Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Ieuan Williams (Llun: Cyngor Sir Ynys Môn)
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn bwriadu arbed dros hanner miliwn o bunnoedd bob blwyddyn drwy gynllun moderneiddio newydd.

Hyd yma, mae’r cynllun Gweithio’n Gallach wedi galluogi’r Cyngor i wneud arbedion sylweddol ac i foderneiddio gwasanaethau i bobol Môn, gan gynnwys creu derbynfa newydd ar gyfer y Cyngor.

Mae cynlluniau pellach y prosiect yn cynnwys gwerthu nifer o adeiladau er mwyn torri costau ac ail-leoli 135 o staff i’r prif adeilad.

Y gobaith ar ôl cwblhau’r prosiect yw y bydd technoleg gweithleoedd y Cyngor wedi ei huwchraddio ac y bydd biwrocratiaeth wedi ei lleihau.

Arbedion

Ar gost o £127,215, mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd y prosiect yn sicrhau bod £4.58 yn cael ei arbed am bob £1 fydd yn cael ei wario.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Ieuan Williams: “Mae’r prosiect Gweithio’n Gallach wedi torri tir newydd – drwy ganolbwyntio ar arbedion ariannol a gwella gwasanaeth i’r cwsmer.”