Wrth annerch Cynhadledd Wanwyn y Ceidwadwyr yng Nghaerdydd heddiw, mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi pwysleisio fod gwahaniaethau rhwng amaethyddiaeth yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd yr undeb bod “amaethyddiaeth yng Nghymru yn sylfaenol wahanol” i amaethyddiaeth Lloegr a bod “angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig werthfawrogi’r gwahaniaeth”.

Hefyd dywedodd Llywydd yr UAC, Glyn Roberts, bod y fferm deuluol yn “ffordd o fyw, yn fwy nag yn Lloegr” a bod rhaid cydnabod  “rôl ffermydd o’r fath yng nghefn gwlad Cymru”.

Yn ystod yr araith pwysleisiodd bod yna “faterion hanfodol” i’w datrys yn niwydiant amaeth y Deyrnas Unedig ac mai “trafodaeth a chytundeb gyda’r gwledydd datganoledig” yw’r ateb i hyn.

Ategodd bod llwyddiant yn ddibynnol ar “barodrwydd ein gwleidyddion i gydnabod pa mor wahanol yw ffermio ar draws y gwledydd datganoledig”.