Mae Theresa May wedi dweud mai’r Ceidwadwyr yw plaid y tir canol yng ngwleidyddiaeth Prydain erbyn hyn, wrth iddi annerch cynhadledd ei phlaid yng Nghaerdydd.
Dywedodd ei bod yn “gwrthod Llafur chwith eithafol, [gwleidyddiaeth] dde libertaraidd UKIP a chenedlaetholdeb obsesiynol Plaid Cymru a’r SNP”.
“Mae’r SNP yn dadlau y dylwn rannu’r Deyrnas Unedig am ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai
“Ond tair blynedd yn ôl fe wnaethon nhw ymgyrchu am ganlyniad y byddai wedi tynnu’r Alban allan o’r Undeb Ewropeaidd yn gyfan gwbl.
“Maen nhw’n hapus i weld pŵer yn aros ym Mrwsel. Ond os bydd y pwerau hynny’n dod yn ôl i Lundain… maen nhw am iddyn nhw fynd i Gaeredin… fel eu bod nhw’n gallu ceisio rhoi nhw yn ôl i Frwsel.
“A nawr maen nhw’n dweud, mae’n debyg, na fyddai Alban annibynnol yn ceisio dod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn pleidlais ar rannu.
“Mae’n anhrefn ar ben anhrefn.”
Brexit – “optimistiaeth a gobaith”
Dywedodd Theresa May y byddai cynllun y blaid dros Brydain yn delifro gwlad “gryfach a thecach,” gan bwysleisio bod “ein dyddiau gorau eto i ddod” ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Yn ystod y pythefnos nesaf, bydda i’n tanio Erthygl 50 ac yn dechrau trafodaethau i sicrhau ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Ar gyfnodau o’r fath – cyfnodau cenedlaethol mawr sy’n diffinio ein cymeriad fel cenedl – mae gennym ddewis.
“Gallwch edrych ymlaen gydag optimistiaeth a gobaith. Neu roi mewn i wleidyddiaeth ofn ac anobaith.
“Rydw i’n dewis credu mewn Prydain a bod ein dyddiau gorau eto i ddod.”
Brexit Theresa May
Dywedodd ei bod yn benderfynol o gael y “fargen gywir i Brydain” ac y byddai hyn yn cynnwys:
- Cadw’r Ardal Deithio Gyffredin ag Iwerddon
- Rheoli mewnfudo
- Cadw hawliau dinasyddion yr UE ym Mhrydain a dinasyddion Prydain yn yr UE
- Gwella hawliau gweithwyr
- Masnach rydd gyda marchnadoedd Ewropeaidd
- Cytundebau masnachu newydd gyda gwledydd eraill
Y bore yma roedd fforwm Wanwyn y Ceidwadwyr ar lefel y Deyrnas Unedig a bydd cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn dechrau’r prynhawn yma.