Andrew RT Davies
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn dweud bod Plaid Cymru yn “drychinebus i Gymru”.

Yn ei araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yng Nghaerdydd y bore yma, roedd Andrew RT Davies yn pwysleisio ‘cryfder y Deyrnas Unedig’.

Ac mewn cyfweliad gyda golwg360 dywedodd Andrew RT Davies bod arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn “bodoli i rannu’r Deyrnas Unedig”.

“Bydd unrhyw un sy’n pleidleisio dros Blaid Cymru yn yr etholiadau lleol yn pleidleisio am annibyniaeth i Gymru – ond yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol, rydym yn gwybod y byddai hynny’n drychinebus i Gymru,” meddai.

“Ddim am fy mod i’n credu nad yw Cymru’n gallu gwneud ei phenderfyniadau ei hun, rydyn ni’n gwneud hynny’n ddyddiol fan hyn ar [faterion] datganoledig ond dw i’n meddwl fel rhan o’r Deyrnas Unedig, rydym ni i gyd yn gryfach gyda’n gilydd yn yr undeb fwya’ lwyddiannus y mae’r byd wedi’i weld.”

“Hyder”

Roedd gan Andrew RT Davies neges bendant i Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, sy’n galw am ail refferendwm ar annibyniaeth – “Mae’r Undeb yma i aros.”

Dyna yw prif neges cynhadledd y blaid, gyda disgwyl i’r Prif Weinidog, Theresa May, fydd yn siarad cyn cinio, ategu’r neges.

Ychwanegodd Andrew RT Davies y bydd y gynhadledd yn un “ffres, ddeinamig, fydd yn edrych ar y dyfodol gydag optimistiaeth a hyder”.