Tregaron
Mae trigolion Tregaron wedi bod yn son wrth gylchgrawn Golwg am eu siom o weld banc ola’r dref yn cau ei ddrysau, a hynny ychydig dros ddwy ganrif ers i’r banc cyntaf erioed agor yno.

Mae’r dref yn “mynd yn ôl mewn amser” yn ôl perchennog garej yn y dref.

Mae William Jenkins a’i deulu wedi cadw garej yn Nhregaron am fwy na chanrif, ac wrth weld y banc olaf yn cau mae e’n pryderu am ddyfodol ei gwmni.

“Dyw pobol ddim yn dod i Dregaron i fynd i’r banc neu am neges fel y buon nhw,” meddai.

“Maen nhw’n mynd i Aberystwyth neu i Lanbed yn lle, a does dim busnes yn dod i’r dref fel hyn.

“Ry’n ni’n sicr wedi gweld cwymp yng ngwerthiant y petrol, ac mae cau’r banc yn hoelen arall yn yr arch i’r ardal.

“Y trwbl nawr yw gwybod am ba hyd y gallwn ni aros ar agor.”

Yn ogystal â chau’r banciau, mae Tregaron wedi colli gwasanaeth y Swyddfa Bost yn ddiweddar wrth iddo symud i gownter yn siop Spar yn y dref.

Ac mae’r dref wedi colli gwasanaeth y llyfrgell a chweched dosbarth yr ysgol uwchradd, Ysgol Henry Richard, wrth i ddisgyblion orfod teithio i Lanbedr Pont Steffan neu Aberystwyth am Addysg Bellach.

Y dref wedi distewi

Mae banc NatWest wedi cadw gwasanaeth twll yn y wal yn Nhregaron, ac yn cynnig banc symudol yn y dref am awr bob dydd Mawrth ac mae Lloyds wedi cytuno i fynd â banc symudol i’r dref bob dydd Iau, a hynny am dri chwarter awr yn unig.

“Mae llawer o ymwelwyr yn dod yma ac maen nhw’n synnu nad oes yr un banc ar gael,” meddai Lowri Pugh-Davies, rheolwraig Canolfan Rhiannon yn Nhregaron.

Ac yn ôl y ferch 24 oed, mae llai o fwrlwm yn y dref – “pan oedd tri banc yma roedd hi’n hollol wahanol, ond does dim hanner gymaint o bobol yn dod yn wythnosol erbyn hyn.”

Mwy am Dregaron gan Megan Lewis yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.