Felix Aubel
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu sylwadau un o’i haelodau mwyaf blaenllaw yng Nghymru am awgrymu y dylid dod ag erledigaeth grefyddol yn ôl.

Roedd Felix Aubel yn ymateb i neges Twitter blogiwr asgell dde eithafol o Sweden pan ddywedodd y dylai Cristnogion Ewrop wneud yr hyn wnaed gan Gristnogion Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol.

Dyma beth oedd yn cael ei alw’n Chwil-lys Sbaen (Spanish Inquisition), oedd yn cynnwys erlid ac arteithio Mwslemiaid ac Iddewon a’u llosgi’n fyw ar y strydoedd.

Mae Felix Aubel, sy’n weinidog ar bump o eglwysi’r Undeb Annibynwyr Cymraeg, bellach wedi dileu ei sylwadau o’r wefan gymdeithasol.

Beirniadu ei sylwadau
“Mae sylwadau Felix Aubel yn rhai ef yn unig a dydyn nhw ddim mewn unrhyw ffordd yn cynrychioli barn y Ceidwadwyr Cymreig,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

“Gallwn ni ddim caniatáu defnyddio’r math yma o iaith.”

Roedd y cymeriad dadleuol yn gydlynydd ymgyrch Gadael yr Undeb Ewropeaidd yng ngorllewin Cymru. Bu hefyd yn sefyll dros y Ceidwadwyr Cymreig yn etholiadau’r Cynulliad y llynedd. Ond mae golwg360 wedi cael cadarnhad na fydd Felix Aubel yn sefyll yn etholiadau lleol Mai 3 eleni.