Mae casglu a gwaredu sbwriel ar ochrau’r ffyrdd yn costio £3.5m y flwyddyn i drethdalwyr, yn ôl arolwg newydd.

Arolwg Cymru gyfan Cadwch Gymru’n Daclus, yw’r cyntaf o’i fath a bu’n edrych ar bob awdurdod lleol ynghyd â’r ddwy Asiantaeth Cefnffyrdd yng Nghymru.

Yn ychwanegol i gost gwaredu sbwriel mae’n debyg bod cau ffyrdd a thagfeydd traffig er mwyn glanhau sbwriel yn cael effaith sylweddol ar yr economi.

Mae’r arolwg hefyd yn awgrymu bod nifer am weld deddfwriaeth yn cael ei lymhau fel bod gollwng sbwriel o gerbydau yn gyfwerth â throseddau gyrru.

Gwnaeth cosbau gollwng sbwriel gael eu llymhau dan y ddeddf Troseddau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona yn 2014, ond nid yw’r ddeddf yn ymestyn i Gymru.

Effeithiau pellgyrhaeddol

“Mae sbwriel yn anharddu ein strydoedd a’n cymunedau ac mae’n costio’n ddrud, yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mae’r effeithiau’n bellgyrhaeddol,” meddai Rheolwr Polisi Cadwch Gymru’n Daclus, Jemma Bere.

“Rydym ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a byddwn yn treialu rhai atebion yn y dyfodol agos.”